Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

27 Mawrth 2023

SL(6)337 Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

 

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) yn gwneud trefniadau ar gyfer hysbysu, ystyried ac ymateb i bryderon a hysbysir gan bersonau mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir gan neu o dan drefniadau gyda'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau technegol i Reoliadau 2011, gan gynnwys:

  1. estyn cymhwysiad Rheoliadau 2011 i Awdurdodau Iechyd Arbennig yng Nghymru; ac
  2. mewn amgylchiadau pan fo Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) wedi argymell bod y corff GIG Cymru perthnasol yn cynnig ffurf o iawn o dan Ran 6 o Reoliadau 2011, sy’n caniatáu i’r corff hwnnw gynnal ymchwiliad pellach i benderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ac i gynnig ffurf o iawn yn unol â’r Rheoliadau hynny ac argymhellion yr Ombwdsmon.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.

Rhiant-Ddeddf: Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008

Fe’u gwnaed ar: 07 Mawrth 2023

Fe’u gosodwyd ar: 09 Mawrth 2023

Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2023